Newyddion S4C

Pryder am ddyfodol sinemâu annibynnol wrth i gostau gynyddu

16/08/2022

Pryder am ddyfodol sinemâu annibynnol wrth i gostau gynyddu

Mae yna bryder am ddyfodol rhai sinemâu annibynnol, wrth i gostau ynni godi.

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd gwirfoddolwr mewn un sinema yn y de orllewin bod biliau nwy wedi treblu erbyn hyn.

Bu'n rhaid i sinema Cross Hands ddechrau tudalen godi arian er mwyn sicrhau dyfodol byr dymor yr adeilad.

Wedi ei sefydlu nôl ym 1923, mae sinema Cross Hands wedi bod yn ganolbwynt i'r gymuned yng Nghwm Gwendraeth.

Dros y blynyddoedd, mae'r llwyfan yno wedi croesawu sêr fel Ryan a Ronnie yn ogystal â dangos y ffilmiau diweddaraf.

Ond ma yna boeni yn lleol am effaith y cynnydd mewn prisiau ynni ar ddyfodol y safle.

Mae Ellis Davies wedi bod yn gwirfoddoli yn y sinema ers blynyddoedd. Mae cost rhedeg yr adeilad erbyn hyn yn ei synnu.

"Pan ddechreuais i fan hyn, 20c y litr oedd pris y nwy am amser hir. Erbyn hyn mae'n 67c y litr, a ry' ni wedi cael llythyr yn dweud yn yr hydref, fydd e'n mynd lan eto. Felly chi'n siarad am gostau anferth."

Mae yna bryderon tebyg ar draws Gymru.

Wedi ei lleoli yn ardal ôl-ddiwydiannol Blaenau Ffestiniog, mae denu cwsmeriaid wedi bod yn dalcen caled erioed yn sinema annibynnol CellB.

Ond gyda phrisiau ynni wedi cynyddu, mae'r her hyd yn oed yn fwy erbyn hyn, ac mae'r rheolwr Rhys Roberts yn poeni na fydd y sinema yn gallu dangos y ffilmiau mwyaf diweddar wrth iddyn nhw'n gael eu rhyddhau.

"Yr heriau sy'n ein gwynebu ni heddiw ydy costau egni yn codi, a'r gost o redeg yr holl adeilad. Mae 'neud o am bythefnos, dau sgrin y dydd yn anghynaladwy.

"Y peryg ydy byddwn ni methu dangos ffilmiau ar ddyddiad, fyddwn ni'n gorfod mynd i ddangos nhw ar wythnos tri neu pedwar. Ac erbyn hynny, mae pobl wedi bod i'ch Cineworlds i'w gweld nhw erbyn hynny."

Bu'n rhaid i Sinema Cross Hands ofyn i'r gymuned am gefnogaeth ariannol. Erbyn hyn maen nhw wedi codi dros £2,000. Mae pobl leol wedi bod yn fwy o gymorth na'r cwmni ynni, yn ôl Ellis Davies.

"Ysgrifenno ni at y cwmni sbel yn ôl i ofyn, a chi'n gwybod be yw'r ateb...'the deal is the deal'."

Mae Mr Davies yn credu y byddai colli'r sinema yn ergyd anferth i'r cwm, gan gofio bod yr adeilad wedi ei godi ar ôl i lowyr roi 1c yr wythnos tuag at y fenter. 

"Sain credu byddai neb moyn gweld y lle yn cau yng Nghwm Gwendraeth neu'n fwy llydan na hynny. Ma' pobl o Lanbed yn dod ma ar nos lun, achos bo nhw'n mwynhau bod yn yr adeilad ma. "

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.