Newyddion S4C

Heddlu.

Cyhuddo dyn o lofruddio dynes 71 oed yng Ngwynedd

NS4C 04/08/2022

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhuddo dyn lleol 45 oed o lofruddio dynes yn y Bermo, Gwynedd. 

Bu farw Margaret Barnes, 71, o Birmingham yn dilyn digwyddiad ar Rodfa’r Môr yn oriau man y bore fis Gorffennaf. 

Cafodd yr heddlu a’r Gwasanaeth Ambiwlans eu galw am 22:56 nos Sul 10 Gorffennaf ond bu farw Ms Barnes yn ddiweddarach.

Mae David Redfern, 45, o Bermo wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth. Mae’n parhau yn nalfa’r heddlu a bydd yn ymddangos o flaen ynadon ddydd Gwener. 
 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.