
Disgwyl 'penderfyniadau anodd' am rai o raglenni BBC Radio Cymru

Fe fydd yn rhaid gwneud “penderfyniadau anodd” am rai o raglenni BBC Radio Cymru dros y cyfnod nesaf, yn ôl pennaeth yr orsaf.
Dywedodd Dafydd Meredydd, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, fod y gorfforaeth yn wynebu “dewisiadau anodd, yn enwedig o ran y gwasanaethau llinol”.
Ond, roedd Mr Meredydd hefyd yn pwysleisio y bydd yr orsaf yn gwarchod yr “oriau brig” – y rhaglenni hynny sy’n denu’r nifer uchaf o wrandawyr.
Ychwanegodd na fyddai oriau darlledu Radio Cymru yn cael eu cwtogi ond y bydd yn rhaid “edrych ar yr arlwy yn ei gyfanrwydd”.
Daw hyn wedi i BBC Cymru gyhoeddi ddydd Mercher y bydd oriau Radio Cymru 2 yn cael eu hymestyn o 15 awr yr wythnos i fwy na 60 awr.

'Tasg heriol'
Yn ystod y cyhoeddiad swyddogol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, fe gyfeiriodd Dafydd Meredydd at araith ddiweddar gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tim Davey.
“Mi fyddwn ni’n gwarchod y rhaglenni lle mae’r gynulleidfa ar ei gryfa’ ond o amgylch hynny, wrth gwrs, mi fydd yn rhaid i ni edrych ar yr arlwy yn ei gyfanrwydd ac fel o’dd o’n deud, gwneud penderfyniadau anodd,” meddai.
Mae’r cyhoeddiad yn dod fel rhan o ymdrech ehangach y BBC i gynyddu darpariaeth ddigidol y gorfforaeth sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed ym mis Hydref.
Ychwanegodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “Bydd y dasg hon serch hynny, yn heriol.
“Mae’r BBC yn wynebu toriadau o hyd at £285 miliwn erbyn 2027 a hynny mewn diwydiant gyda chwyddiant yn rhemp a chystadleuaeth chwilboeth am sgiliau digidol.
“Mae hyn yn mynd i olygu penderfyniadau caled a bydd angen blaenoriaethu. Mewn geiriau eraill fydd angen i’r BBC fod yn glir ynghylch yr hyn y gall neu na all ‘neud.”
Mae disgwyl i'r drafodaeth am ddyfodol y ffi drwydded ddechrau yn y dyfodol agos.