Newyddion S4C

Ekin Su Davide / Love Island

Ekin-Su a Davide yn ennill Love Island

Mirror 02/08/2022

Ekin-Su Cülcüloğlu a Davide Sanclimenti ydy enillwyr cyfres deledu Love Island eleni.

Fe gafodd y rownd derfynol ei chynnal nos Lun gyda'r cyflwynydd, Laura Whitmore, yn cyhoeddi mai nhw oedd yr enillwyr ac y byddant yn cipio gwobr ariannol o £50,000.

Daeth Gemma Owen sef merch y cyn bêl droediwr Michael Owen a Luca Bish yn ail, Indiyah Polack a Dami Hope yn drydydd ac fe wnaeth Tasha Ghouri ac Andrew Le Page orffen yn bedwerydd.

Cyhoeddodd ITV yn gynharach eleni mai 2023 fydd y "flwyddyn gariad" wrth iddyn nhw gyhoeddi dwy gyfres newydd o Love Island.

Darllenwch fwy yma

Llun: Love Island

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.