Newyddion S4C

Ramsey.png

Aaron Ramsey yn arwyddo i glwb pêl-droed OGC Nice yn Ffrainc

NS4C 01/08/2022

Mae Aaron Ramsey wedi arwyddo i glwb pêl-droed OGC Nice yn Ffrainc.

Fe wnaeth chwaraewr canol cae Cymru arwyddo i'r clwb yn Ne Ffrainc ar ôl i'w gytundeb gyda Juventus ddod i ben.

Roedd gan y Cymro 31 oed flwyddyn i fynd gyda cewri Yr Eidal. 

Roedd Ramsey ar fenthyg gyda Chlwb Pêl-droed Rangers yn Yr Alban yn ystod ail hanner y tymor diwethaf a daeth cytundeb ar y cyd gyda Juventus i ddiweddu ei amser yno yn dilyn tair blynedd. 

Daw hyn wedi i amddiffynwr Cymru, Joe Rodon, symud i Ffrainc ddydd Llun hefyd, wedi iddo gytuno i arwyddo ar fenthyg i Rennes o Tottenham Hotspur. 

Llun: OGC Nice

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.