Gwyn Nicholas yn ennill Medal Goffa Syr TH Parry-Williams

Gwyn Nicholas o Lanpumsaint yw enillydd Medal Goffa Syr TH Parry-Williams er clod eleni.
Cyflwynir y Fedal yn flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol i unigolyn sydd "wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol", gyda "phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc".
Mae dylanwad a chefnogaeth ymarferol Gwyn Nicholas wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc yn ei filltir sgwâr dros gyfnod o hanner canrif a mwy medd yr Eisteddfod.
Rheolwr taliadau yn y Gwasanaeth Iechyd oedd Gwyn wrth ei waith, ond byddai’n treulio’i amser hamdden yn cyfeilio a beirniadu mewn eisteddfodau cefn gwlad ar hyd a lled Cymru, gyda’i gariad at gerddoriaeth yn amlwg i bawb.
Mae’n adnabyddus fel arweinydd corawl a chynulleidfaol, yn arwain ysgolion cân a chymanfaoedd canu, ac yn fwyaf oll, mae’n gyfarwydd i’r rhan fwyaf o bobl fel arweinydd Côr Llanpumsaint, ac ef sydd wedi sicrhau eu bod nhw wedi cystadlu a theithio llawer iawn dros y blynyddoedd
'Oriau dirifedi o wirfoddoli'
Mae llawer o’i waith yn digwydd yn dawel di-ffws medd trefnwyr y wobr, gyda’r enwebiad ar gyfer y Fedal yn sôn am yr “oriau dirifedi gwirfoddol mae Gwyn wedi’u rhoi i ieuenctid a cherddoriaeth, yr oriau o drosi cerddoriaeth o’r Hen Nodiant i Sol-ffa, a threfnu caneuon a chyfansoddi emynau.”
Mae’i gyfraniad a’i waith wedi dylanwadu ar genedlaethau o bobl ifanc yn lleol, yn eu helpu gyda gwaith theori cerddoriaeth, eu dysgu i chwarae’r piano a chanu.
Yn annog corau Ysgol Bro Myrddin, neu’n helpu i roi sglein ar berfformiadau clybiau ffermwyr ifanc yr ardal cyn cystadlaethau a chynorthwyo yn ysgol gynradd Llanpumsaint, mae Gwyn "bob amser yn hael gyda’i gyngor ac yn barod ei gymwynas" medd yr Eisteddfod.
Bu Syr TH Parry-Williams yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Awst 1975, yn dilyn ei farwolaeth ychydig fisoedd ynghynt, sefydlwyd cronfa i goffáu’i gyfraniad gwerthfawr i weithgareddau’r Eisteddfod.
Gweinyddir y gronfa gan Ymddiriedolaeth Syr Thomas Parry-Williams.