Newyddion S4C

Cynnal Eisteddfod y Rhondda am y tro cyntaf ers dros hanner canrif

Cynnal Eisteddfod y Rhondda am y tro cyntaf ers dros hanner canrif

Newyddion S4C 28/07/2022

Fe fydd Eisteddfod leol wyneb yn wyneb yn cael ei chynnal yn y Rhondda am y tro cyntaf ers dros hanner canrif.

Roedd y trefnwyr wedi eu hysbrydoli gan ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â'r ardal ond mae dwy flynedd o Covid-19 wedi achosi oedi.

Maen nhw nawr yn bwrw ymlaen â threfniadau i gynnal y digwyddiad ym mis Tachwedd.

Fe gafodd yr Eisteddfod ei sefydlu fel digwyddiad ar-lein ddwy flynedd yn ôl ac yn ôl un o'r trefnwyr Seren Haf Macmillan fe fydd hynny'n help wrth iddyn nhw gynnal digwyddiad wyneb yn wyneb.

"Mae dwy flynedd o brofiad gyda ni. Mae'n bwysig i gynnal y digwyddiad yn fyw. Mae'n tynnu pawb at ei gilydd yn y gymdeithas ac mae'n rhoi hwb i'r iaith Gymraeg yn y gymuned a dyna'n union beth ni mo'yn gan fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod yma yn 2024," meddai.

Yng nghapel Hermon Treorci bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ac yno hefyd y buon nhw'n cwrdd i drefnu.

Mae Ben Screen yn teimlo fod yr Eisteddfod yn gyfle i roi llwyfan i'r iaith yn lleol.

"Mae 'na lot o Gymraeg yn yr ardal felly mae'n braf gweld hyn yn digwydd achos mae'n cydnabod bod yr iaith yma a'i bod hi'n gryf," meddai.

"Mae jyst yn ffordd dda o ddathlu'r iaith ac o ddefnyddio'r iaith hefyd."

'Cefnogi Eisteddfodau'

Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal tua'r un adeg ag Eisteddfodau lleol eraill yng Nghaerdydd ac yng Nghaerffili a'r gobaith yw y bydd hon yn rhan o gylchdaith leol fel mae Lisa Sheppard yn egluro.

"Mae lot ohonom ni yn aelodau o Aelwyd Cwm Rhondda a ni wedi bod yn cystadlu yn yr Eisteddfodau yna dros y blynyddoedd felly bydden ni'n gobeithio bod ni'n parhau i fynd a chefnogi'r Eisteddfodau lleol yna a bod pobl sy'n mynd i'r Eisteddfodau yna yn dod atom ni hefyd," meddai.

Yn ôl Cennard Davies a gafodd ei eni yn y Rhondda Fawr ddiwedd y 1930au, roedd yna draddodiad eisteddfodol cryf yn yr ardal er nad oedd yr Eisteddfodau wastad yn rhai Cymraeg.

"Roedd tair Eisteddfod yn y Rhondda Fawr, Eisteddfod y Parc a'r Dar oedd yn cael ei chynnal ar y Sulgwyn ac yn para dau ddiwrnod cyfan," meddai.

"Roedd yna ddwy eisteddfod mewn ffatrïoedd yma hefyd. Un yng ngwaith dur TC Jones ac un arall yn ffatri Polikoff ac fe aeth y rheina ymlaen i ddechrau'r 1960au ac roedd y ffatrïoedd yn cynnal corau hefyd.

"Roedd Côr Merched yn ffatri Polikoff a Chôr Meibion yn TC Jones felly roedd yna dipyn o fynd ar y cystadlu."

Tra bo'r trefnwyr yn rhagweld cynnal Eisteddfod draddodiadol Gymraeg maen nhw'n awyddus i sicrhau eu bod nhw'n cynnwys y  gymuned leol fel mae un o'r trefnwyr, Thomas Tudor-Jones, yn egluro.

"Rhywbeth traddodiadol, yr hyn ni wedi arfer â fe ond hefyd ni'n gobeithio gallu cysylltu â'r gymuned drwy rhai o'r cystadlaethau yn enwedig gyda'r dysgwyr," meddai.

"Mae hynna wedi bod yn reit bwysig i ni. Ni wedi cael trafodaethau gyda rhai o'r ysgolion lleol er mwyn iddyn nhw fod yn rhan o'r Eisteddfod.

"Fe fydd cystadlaethau celf hefyd a'r gobaith yw y bydd disgyblion lleol yn dod i arfer ac Eisteddfod ac y bydd hynny'n rhoi hyder iddyn nhw gystadlu yn y dyfodol.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.