Y Seintiau Newydd allan o Ewrop

Mae'r Seintiau Newydd allan o'r Gyngres Europa ar ôl colli i Víkingur dros ddwy gêm.
Daw hyn wedi i garfan Anthony Limbrick dal y tîm o Wlad yr Iâ yn ddisgôr mewn gêm gyfartal 0-0 yn Neuad y Parc nos Fawrth.
Er i'r Seintiau osgoi colled ar y noson, maen nhw allan o'r gystadleuaeth ar ôl colli 2-0 yn y cymal cyntaf wythnos diwethaf.
Y Drenewydd yw'r unig dîm o Gymru ar ôl yn Ewrop erbyn hyn, ac maen nhw'n chwarae yn erbyn Spartak Trnava o Slofacia nos Iau.