Newyddion S4C

Llun o borthladd Dofr

Oedi difrifol ym mhorthladd Dover wrth i deithwyr heidio ar eu gwyliau

The Guardian 22/07/2022

Mae'r awdurdodau ym mhorthladd Dover yng Nghaint wedi cyhoeddi fod oedi sylweddol yn y porthladd i deithwyr ddydd Gwener.

Ar ddechrau gwyliau'r haf mae miloedd o bobl ar draws y DU yn gobeithio teithio dramor y penwythnos hwn, gyda rhybudd am oedi yn debygol mewn meysydd awyr a phorthladdoedd.

Yn Dover mae pobl wedi bod yn aros hyd at chwe awr er mwyn dal llongau i gyfandir Ewrop.

Dywedodd llefarydd o'r porthladd fod bai ar yr awdurdodau yn Ffrainc am fethu paratoi'n ddigonol ar gyfer y prysurdeb.

Darllenwch ragor yma.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.