Lluoedd Rwsia yn 'rhedeg allan o stêm' medd pennaeth MI6

Mae lluoedd Rwsia yn "rhedeg allan o stêm" gan olygu bod gan byddin Wcráin y cyfle i "frwydro'n ôl", yn ôl pennaeth MI6.
Ar ôl i'r Kremlin ddatgan eu cynlluniau i hawlio tir tu hwnt i ddwyrain Wcráin ddydd Mercher, dywedodd pennaeth yr asiantaeth cuddwybodaeth tramor, Richard Moore, y byddai'n rhaid i'r Rwsiaid "stopio mewn rhyw ffordd."
"Dwi'n meddwl y byddan nhw'n rhedeg allan o stêm, a rydym yn darogan y byddan nhw'n ei chael hi'n ofnadwy o anodd i ddarparu milwyr ac offer yn yr wythnosau nesaf."
Fe wnaeth Mr Moore hefyd ddarogan bod oddeutu 15,000 o filwyr Rwsia wedi eu lladd hyd yma yn ystod y rhyfel.
Darllenwch fwy yma.