Apêl heddlu wedi gwrthdrawiad angheuol yng Ngheredigion
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn marwolaeth dyn mewn gwrthdrawiad yng Ngheredigion.
Bu farw'r dyn yn ei 70au oedd yn gyrru beic modur yn y gwrthdrawiad ar yr A487 yn Bow Street ger Aberystwyth am tua 13.00 ddydd Mercher, 20 Gorffennaf.
Mae teulu’r dyn a’r crwner wedi cael eu hysbysu am y digwyddiad.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.
Llun: Google