Rhybudd melyn am stormydd mellt a tharannau ar draws Cymru

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd mellt a tharannau ar draws Cymru rhwng 10:00 a 22:00 ddydd Gwener yn dilyn tywydd crasboeth.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gallai'r stormydd gwasgaredig effeithio ar amodau gyrru, amseroedd trenau a chyflenwadau trydan i gartrefi a busnesau am gyfnod byr.
Gallai hyd at 40-50mm o law ddisgyn mewn mannau ac mae disgwyl cyfnodau o gesair a mellt.
⚠️ Yellow weather warning issued ⚠️
— Met Office (@metoffice) July 21, 2022
Thunderstorms across parts of Wales, South West England and Central Southern England
Friday 1000 – 2200
Latest info 👉 https://t.co/QwDLMfRBfs
Stay #WeatherAware⚠️ pic.twitter.com/yIWnIGrJM6
Mae'r rhybudd yn effeithio ar 16 o siroedd Cymru:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell Nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Merthyr Tudful
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Gaerfyrddin
- Sir Fynwy
- Torfaen