Llyfr y Flwyddyn: Cyhoeddi enillwyr categoriau Plant a Phobl Ifanc a Ffeithiol Greadigol

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi enillwyr y categori Plant a Phobl Ifanc a'r categori Ffeithiol Greadigol yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2022.
Casgliad Y Pump sydd wedi ennill y wobr am y categori Plant a Phobl Ifanc a Paid â bod Ofn gan Non Parry sydd wedi dod yn fuddugol yn y categori Ffeithiol Greadigol.
Mae Y Pump yn gyfrol o bum nofel, pob un wedi eu cyd-ysgrifennu gan ddau awdur.
Mae'r bum nofel yn dilyn gwahanol aelodau grŵp o ffrindiau - Tim, Tami, Aniq, Robyn and Cat - sydd yn darganfod y pŵer sydd ganddynt wrth ddod at ei gilydd fel cymuned.
Penderfynodd y beirniaid gwobrwyo'r holl awduron a wnaeth cyfrannu at y casgliad.
Bydd Elgan Rhys a Tomos Jones (Tim), Mared Roberts a Ceri-Anne Gatehouse (Tami), Marged Elen William a Mahum Umer (Aniq). Iestyn Tyne a Leo Drayton (Robyn) a Megan Angharad a Maisie Awen (Cat) i gyd yn rhannu'r wobr.
Mae Paid â Bod Ofn yn hunangofiant gan y gantores Non Parry sy’n codi’r llen ar fywyd yn llygad y cyhoedd ac yn trafod iechyd meddwl.
Mae enillwyr pob categori yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr yn ogystal â thlws wedi ei ddylunio a'i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones.
Eisioes mae Ffion Dafis wedi ennill y wobr am y categori Ffuglen Cymraeg gyda'i nofel Mori, a Merch y llyn gan Grug Muse wedi dod yn fuddugol yn y categori Barddoniaeth.