Newyddion S4C

Cameron Smith

Cameron Smith yn ennill pencampwriaeth golff yr Open

NS4C 17/07/2022

Mae Cameron Smith o Awstralia wedi ennill pencampwriaeth golff yr Open yn St Andrews.

Fe sicrhaodd y Gwpan Claret nodedig gan sgorio 20 ergyd yn well na’r safon dros y gystadleuaeth.

Cameron Young o’r UDA ddaeth yn ail, 19 ergyd yn well na’r safon.

Daeth y ffefryn Rory McIlroy yn drydydd, 18 yn well na’r safon. Nid yw wedi ennill pencampwriaeth fawr ers cipio'r PGA yn 2014.

Roedd yr Open wedi dychwelyd i’r Hen Gwrs yn St Andrws yn Yr Alban, cartref ysbrydol y gêm, am y 30ain tro. 

Roedd y cwrs byd-enwog yn dathlu carreg filltir arwyddocaol, gan mai eleni oedd y 150fed gwaith i'r bencampwriaeth gael ei chwarae.

Llun: Twitter/The Open

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.