Elfyn Evans yn gorffen yn ail ar Rali Estonia

Mae Elfyn Evans wedi gorffen yn yr ail safle ar Rali Estonia.
Fe gafodd y Cymro ddechrau da i’r rali ar ôl iddo ennill pedwar cymal yn olynol ddydd Gwener.
Ond wrth i law trwm achosi llanast ddydd Sadwrn fe gwympodd i’r ail safle, tu ôl i Kalle Rovanperä o’r Ffindir sy’n arwain y bencampwriaeth.
Dywedodd Evans ei fod yn hapus gyda’r penwythnos. Dywedodd: “Roedd yn gyflym o’r dechrau ac roedden yn gryf ddydd Gwener. Ond yn y pendraw, jyst ddim digon i ymladd yn erbyn Kalle Rovanperä ac ar ôl prynhawn dydd Sadwrn, mater o sicrhau ein safle a phwyntiau am y bencampwriaeth."
Mae Evans, sydd yn gyrru i Toyota, yn dal yn y chweched safle yn y bencampwriaeth.
Llun: Twitter/Elfyn Evans
AIL I ELFYN YN ESTONIA 🏴🥈
— Ralïo+ (@RalioS4C) July 17, 2022
A solid second & 4 points in the power stage for Elfyn & Scott 🙌
Llongyfarchiadau i @KalleRovanpera a @JonneHalttunen - ANHYGOEL! What a performance by Kalle & Jonne!#RallyEstonia #EE33 #WRC pic.twitter.com/fAdEj85wOO