Penderfyniad i gau tair ysgol Saesneg yn cael ei herio yn y llysoedd
Penderfyniad i gau tair ysgol Saesneg yn cael ei herio yn y llysoedd

Mi fydd penderfyniad Cyngor Castell Nedd a Phort Talbot i gau tair ysgol Saesneg yn cael ei herio yn y llysoedd, oherwydd pryderon am effaith codi un ysgol fawr Saesneg newydd sbon yn ardal Pontardawe. Mae pobl sydd yn erbyn y cynlluniau i adeiladu'r ysgol newydd yn poeni am yr effaith ar Gymraeg yr ardal. Mae'r cynlluniau wedi achosi tipyn o anghytuno yn lleol.