Newyddion S4C

Y ras i Rif 10

Y ras i Rif 10: Ymgeiswyr yn cynnal ail ddadl deledu

The Independent 17/07/2022

Mae'r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y blaid Geidwadol a swydd Prif Weinidog y DU yn cymryd rhan mewn ail ddadl deledu fyw ar ITV nos Sul.

Roedd y pum ymgeisydd wedi cymryd rhan yn y ddadl gyntaf ar Channel 4 nos Wener.

Yn y ddadl 90 munud, roedd yr ymgeiswyr wedi dadlau dros gyfnod Boris Johnson wrth y llyw, cynlluniau ar gyfer gwariant y wlad yn y dyfodol, costau byw, trethi, hawliau dynol ac ymddiriedaeth mewn gwleidyddion.

Bydd y rownd nesaf o bleidleisiau yn digwydd ddydd Lun.

Yn parhau yn y ras mae:
•Rishi Sunak
•Penny Mordaunt
•Liz Truss
•Kemi Badenoch
•Tom Tugendhat

Darllenwch fwy yma.

Mae'r ddadl ar ITV nos Sul am 19:00.

Llun: ITV

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.