Cyhoeddi'r rhybudd coch cyntaf erioed am am dywydd poeth eithafol

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi'r rhybudd coch cyntaf erioed am dywydd eithafol o boeth i rannau o Loegr ar gyfer dydd Llun a dydd Mawrth, gan olygu bod yna berygl i fywyd.
Gall y tymheredd yn y DU gyrraedd 40C am y tro cyntaf erioed wythnos nesaf.
Mae'r Swyddfa Dywydd rybuddio am "gyfnod eithriadol o dywydd poeth gan arwain at effeithiau sylweddol ar bobl a seilwaith."
Mae "effeithiau iechyd andwyol ar draws y boblogaeth" i'w disgwyl, "sydd ddim wedi eu cyfyngu i'r rhai mwyaf bregus i dywydd poeth eithafol."
Y tymheredd uchaf yn y DU oedd 38.7C yng Nghaergrawnt yn 2019.
Roedd y Swyddfa Dywydd eisoes wedi cyhoeddi rhybudd oren am wres eithafol ar gyfer dydd Sul a dydd Llun yng Nghymru, ond mae’r cyfnod bellach wedi'i ymestyn i ddydd Mawrth.
Darllenwch fwy yma.
⚠️⚠️🔴 Red Extreme heat warning issued 🔴⚠️⚠️
— Met Office (@metoffice) July 15, 2022
Parts of England on Monday and Tuesday
Latest info 👉 https://t.co/QwDLMg9c70
Stay #WeatherAware ⚠️ pic.twitter.com/YHaYvaGh95
Llun: Y Swyddfa Dywydd