Newyddion S4C

Wayne Hennessey

Wayne Hennessey yn arwyddo i Nottingham Forest

NS4C 15/07/2022

Mae gôl-geidwad Cymru, Wayne Hennessey, wedi arwyddo i glwb Nottingham Forest ar gytundeb dwy flynedd.

Mae Hennessey yn ymuno â'r clwb wrth iddynt baratoi am eu tymor cyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr ers tymor 1998/99.

Dyma'r ail Gymro i arwyddo i Forest yr haf hwn, wedi i Neco Williams ymuno o Lerpwl am ffi o £17miliwn ar 7 Gorffennaf.

Chwaraeodd Hennessey rôl allweddol wrth i Gymru guro Wcráin i ennill eu lle yng Nghwpan y Byd trwy wneud naw arbediad yn ystod y gêm.

Dyma fydd 12fed tymor Hennessey yn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr wedi iddo arwyddo o Burnley ar ôl eu cwymp i'r Bencampwriaeth y tymor diwethaf.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.