Newyddion S4C

Ivanka.png

Ivana Trump wedi marw yn 73 oed

The New York Times 14/07/2022

Mae cyn-wraig Donald Trump, Ivana Trump, wedi marw yn 73 oed. 

Fe wnaeth cyn Arlywydd America gyhoeddi'r newyddion mewn datganiad, ond ni ychwanegodd unrhyw ragor o wybodaeth am y farwolaeth. 

"Yn drist iawn, mae'n rhaid i mi gyhoeddi i bawb oedd yn ei charu, ac roedd llawer ohonyn nhw, bod Ivana Trump wedi huno yn dawel yn ei chartref yn Efrog Newydd.

"Roedd hi'n ddynes hyfryd, hardd ac anhygoel, ac fe wnaeth hi fyw bywyd ysbrydoledig. Ei balchder mwyaf oedd ei thri phlentyn, Donald Jr., Ivanka ac Eric. Roedd hi mor falch ohonynt, ac roeddem ni mor falch ohoni hi. Cwsg yn dawel, Ivana!"

Roedd Trump ac Ivana yn briod rhwng 1977 ac 1992.

Darllenwch fwy yma

Llun: Wochit

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.