Kevin Spacey'n pledio'n ddieuog i gyhuddiadau o droseddau rhyw

Mae'r actor Kevin Spacey wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiadau o droseddau rhyw dros gyfnod o 17 mlynedd.
Yn Llys yr Old Bailey yn Llundain ddydd Iau, plediodd Mr Spacey yn ddieuog i gyhuddiadau sydd yn deillio'n ôl i'w gyfnod pan roedd yn gyfarwyddwr artistig ar theatr yr Old Vic rhwng 2005 a 2013.
Roedd Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi awdurdodi'r cyhuddiadau yn erbyn Mr Spacey ym mis Mai, ond roedd angen iddo fod yn y Deyrnas Unedig er mwyn cael ei gyhuddo'n ffurfiol.
Darllenwch fwy yma.