'Lle menyw yn y cartref': Galw am newid geiriad cyfansoddiad Iwerddon

Mae galwadau yn Iwerddon i gynnal refferendwm dros newid geiriad cyfansoddiad y wlad sydd yn datgan fod "lle menyw yn y cartref."
Mewn adroddiad yn yr Oireachtas (Senedd Iwerddon), mae'r Pwyllgor ar Gydraddoldeb rhwng Rhywiau wedi argymell cynnal y bleidlais yn 2023 i newid y cyfansoddiad.
Ar hyn o bryd mae Erthygl 41.2 o'r cyfansoddiad yn dweud dylai'r wladwriaeth "wneud ymdrech i sicrhau nad oes rhaid i fenywod weithio fel nad ydynt yn esgeuluso eu cyfrifoldebau yn y cartrefi."
Dywedodd Arweinydd y Blaid Lafur Wyddelig Ivana Bacik, a wnaeth gadeirio'r pwyllgor, fod refferendwm ar newidiadau yn y cyfansoddiad yn "hir ddisgwyliedig" a bod geirfa'r cyfansoddiad ar hyn o bryd yn seiliedig ar "stereoteipiau hen ffasiwn."
Darllenwch fwy yma.