Nifer marwolaethau Covid-19 Prydain wedi cyrraedd dros 200,000

Mae dros 200,000 o farwolaethau Covid-19 wedi cael eu cofnodi ym Mhrydain ers dechrau'r pandemig, yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.
Mae gan Brydain un o'r cyfraddau marwolaeth uchaf yn Ewrop, gyda chyfradd marwolaeth o 2,652 person i bob miliwn.
Mae 294 marwolaeth yn gysylltiedig gyda Covid-19 wedi bod dros yr wythnos ddiwethaf.
Daw hyn yn dilyn cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o unigolion sydd wedi eu heintio.
Darllenwch fwy yma.