Dau fachgen 17 oed wedi'u harestio mewn cyswllt ag ymosodiad honedig yng Nghaerdydd

Mae dau fachgen 17 oed wedi'u harestio yn dilyn honiadau fod dyn wedi cael ei drywanu yng Nghaerdydd.
Digwyddodd yr ymosodiad honedig ger canolfan hamdden Western yn ardal Caerau ychydig cyn 10:00 fore Llun.
Cafodd dyn 41 oed ei gludo i ysbyty ac mae e bellach mewn cyflwr sefydlog.
Dywedodd yr heddlu fod cyllell wedi'i darganfod, a bod eu hymholiadau yn parhau.