Newyddion S4C

Liz Truss

ASau Ceidwadol i benderfynu'r rheolau i ethol arweinydd newydd y blaid

Sky News 11/07/2022

Fe fydd Aelodau Seneddol Ceidwadol yn penderfynu yn ddiweddarach ar y rheolau ar gyfer yr etholiad i fod yn arweinydd newydd y blaid.

Bellach mae yna 11 o ymgeiswyr wedi datgan eu bod eisiau'r swydd fel y prif weinidog nesaf ar ôl i Boris Johnson gyhoeddi wythnos diwethaf ei fod yn camu lawr. 

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Tramor, Liz Truss, lansio ei hymgyrch nos Sul ac mae yn un o'r ffefrynnau i olynu Mr Johnson yn Rhif 10. 

Cafodd ymgyrch annisgwyl hefyd ei lansio gan Rehman Chishti, sydd yn weinidog yn y Swyddfa Dramor. 

Pwyllgor 1922 fydd yn penderfynu ar y rheolau.

Am fod cymaint o ymgeiswyr, mae yna bwysau i gyflymu'r broses trwy sicrhau mai dim ond ASau gyda chefnogaeth sylweddol sydd yn medru sefyll. 

Y gobaith yw y bydd ASau Ceidwadol yn medru penderfynu ar y ddau brif ymgeisydd yn y dyddiau nesaf cyn i aelodau'r blaid bleidleisio am yr arweinydd newydd yn ystod yr haf.

Darllenwch fwy yma

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.