Dyn wedi ei gyhuddo o geisio treisio menyw yng Nghaerdydd

Mae dyn 44 oed wedi ei gyhuddo o geisio treisio menyw yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd ar 8 Gorffennaf.
Fe wnaeth Yusuf Nur, sydd heb gyfeiriad, ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn ac mae Nur wedi ei gadw yn y ddalfa.
Mae’r fenyw yn cael cymorth swyddogion arbenigol.
Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth wrth i’w hymholiadau barhau.
Dywedodd Ditectif Sarjant Laura Parsons: “Rydym yn gwybod fod nifer o bobol wedi gweld y dyn dan amheuaeth yn cael ei ddal gan aelod o’r cyhoedd cyn i’r heddlu gyrraedd.
“Rydym yn apelio arnyn nhw i gysylltu.”
Dywedodd eu bod am glywed gan unrhyw un oedd yn ardal Gerddi Sophia, Stryd y Castell a heol y Gadeirlan rhwng tua 2:00 a 2:30 fore Gwener, 8 Gorffennaf.
Llun: Wikimedia Commons