Geraint Thomas yn dal ymhlith ceffylau blaen Le Tour

Mae’r Cymro Geraint Thomas yn dal yn y trydydd safle’n gyffredinol yn y Tour de France ar ôl wythfed cymal y ras ddydd Sadwrn.
Er iddo syrthio gydag eraill yn gynnar ar y cymal, fe orffennodd e'r dydd yn ddiogel tua'r blaen.
Woet van Aert o Wlad Belg enillodd y cymal 186km o Dole i Lausanne yn y Swistir.
Bydd cymal dydd Sul yn 192.9km yn y mynyddoedd o Aigle i Châtel Les Portes du Soleil.
Llun: Twitter/Geraint Thomas