Newyddion S4C

S4C

Cyn Brif Weinidog Japan wedi marw ar ôl cael ei saethu

Sky News 08/07/2022

Mae cyn Brif Weinidog Japan, Shinzo Abe, wedi marw, ar ôl cael ei saethu mewn digwyddiad yn ninas Nara.

Cafodd Mr Abe, 67 oed ei saethu ddwywaith yn ei wddf, gan achosi iddo ddisgyn i'r llawr. 

Dywedodd cyn-lywodraethwr Tokyo, Yoichi Masuzoe, mewn neges drydar fod Mr Abe mewn cyflwr o ataliad y galon, cyn iddo gael ei gludo i'r ysbyty.

Daeth cadarnhad yn ddiweddarach ei fod wedi marw.

Dywedodd heddlu'r wlad fod dyn 41 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun:Twitter 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.