Dau wedi eu saethu’n farw mewn 'digwyddiad terfysgol' yn Norwy
25/06/2022
Mae dau o bobl wedi eu saethu’n farw ac 20 wedi eu hanafu mewn tafarn yn Oslo, prifddinas Norwy.
Dywedodd yr heddlu fod y digwyddiad wedi cymryd lle yn nhafarn London Pub sy’n dafarn hoyw poblogaidd yn y ddinas.
Mae dyn 42 oed wedi ei arestio a’i gyhuddo o lofruddiaeth, ceisio llofruddio a gweithredoedd terfysgol.
Ychwanegodd yr heddlu fod 20 o bobl wedi eu hanafu a bod nifer wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Mae'r awdurdodau yn Norwy wedi codi lefel y rhybudd am derfysgaeth yn y wlad.
Daellenwch fwy yma.
Llun: Twitter/NRK