Newyddion S4C

Rwanda wedi bod 'mor groesawgar' i ffoaduriaid o Yemen

Rwanda wedi bod 'mor groesawgar' i ffoaduriaid o Yemen

Mae ffoadur sydd wedi ymgartrefu yn Rwanda gyda’i wraig wedi canmol y wlad am fod “mor groesawgar.”

Mae Burhan a’i wraig Sanaa Almerdas wedi byw yn Rwanda ers tair mlynedd bellach ar ôl ffoi o’u cartref yn Yemen.

Yn ôl Burhan, doedd gan y ddau ddim dewis ond ffoi o’r wlad wedi’r rhyfel waethygu.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C dywedodd: “Nes i ddweud wrth fy ngwraig ein bod yn gorfod gadael.

“Roedd yn rhaid i ni adael, roedd hi’n rhy beryglus yno, felly dyna wnaethom ni.”

Roedd y penderfyniad i adael eu cartref yn anodd a doedd y broses o ffeindio cartref mewn gwlad newydd ddim yn broses hawdd chwaith.

'Dwi ddim am adael y wlad yma'

Dros y blynyddoedd fe drïodd y ddau ymgartrefu mewn sawl gwald gan gynnwys Malaysia, yr Aifft a Jordan ond “roedd y broses mewnfudo yn anodd iawn,” meddai.

“Roeddwn wedi darllen bod Rwanda yn caniatáu pob cenedligrwydd i’r maes awyr, ac wedyn meddwl tybed a dylem drio symud yno.

“Doedd gennym ddim llawer o arian ond fe aethom i weld beth y gallwn ei wneud yno.”

Roedd y croeso cafodd y ddau yn “hollol wahanol” i wledydd eraill ac roedd y broses visa’s yn haws a chyflym.

“O'r dechrau, roedden ni wedi cael sioc fawr, roedd pawb yn y maes awyr yn neis ac yn ein helpu, felly roeddem yn hoffi’r wlad o’r argraff gyntaf.

Er nad oedd y ddau wedi cynllunio i ymgartrefu yn Rwanda dywedodd Mr Almerdas wrth ei wraig ar ôl cyrraedd “dwi ddim am adael y wlad yma.”

Erbyn hyn mae’r ddau yn rhedeg bwyty llewyrchus yno.

Image
S4C
Sanaa a Burhan Almerdas gyda cogydd y bwyty. 

“Mae’r caffi yn cynnig bwyd traddodiadol Yemeni ac mae fel ail gartref i lawer. Mae’n le i fwyta, cymdeithasu, a gweithio.”

Rhoi ei farn am bolisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Mae polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu danfon miloedd o geiswyr lloches i Rwanda wedi sbarduno sawl dadl.

Mae ymgyrchwyr hawliau dynol yn dadlau bod polisi Llywodraeth y DU yn greulon. 

Bwriad y polisi medd y llywodraeth yw ceisio lleihau nifer y bobl sy'n croesi'r sianel i'r DU yn anghyfreithlon.

Wythnos yma cafodd Mr Almerdas gyfle i drafod y cynllun Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson 

Yn ôl Mr Almerdas mae’n deall pam bod y llywodraeth wedi ffurfio’r polisi, ond mae hefyd yn deall pam bod rhai yn anhapus.

“Dwi’n deall y ddwy ochr. Rwy'n deall sut mae'r ffoaduriaid yn teimlo ac rwy'n deall pam mae'r llywodraeth wedi gwneud y penderfyniad hwn.

“Mae cyrraedd Rwanda yn anodd iawn os ‘da chi ddim yn barod i weithio yn galed iawn am arian. Rydyn ni'n gweithio'n galed iawn bob dydd i oroesi.

“Ond mae yn wlad lân a bydd y ffoaduriaid yn teimlo yn ddiogel iawn yma. Ni all unrhyw un gyffwrdd â nhw ar y stryd, ni all neb ddweud gair drwg wrthynt. Mae’r heddlu yn trin pawb yn dda iawn.”

Mae Mr Almerdas yn credu y bydd y ffoaduriaid yn hoff iawn o Rwanda unwaith y byddant wedi cyrraedd ond mae hefyd yn deall eu bod nhw wedi bod trwy amser caled ac anodd iawn i gyrraedd Ewrop a’r Deyrnas Unedig.

“Maen nhw wedi treulio llawer o amser yn breuddwydio am fyw yn Ewrop a’r DU felly mae am fod yn anodd.

“Roeddwn i ar un adeg wedi meddwl am dalu rhywun i fynd a fi dros y môr ar adeg anobeithiol yn Yemen, ond doeddwn ddim eisiau marw yn ganol y môr.”

Yn dilyn salw rhwystr cyn ymgartrefu yn Rwanda mae Burhan a Sanaa Almerdas yn gobeithio y bydd pob ffoadur yn darganfod rhywle i alw yn adref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.