Newyddion S4C

Diwrnod olaf o streicio yn effeithio ar wasanaethau trên yng Nghymru

25/06/2022

Diwrnod olaf o streicio yn effeithio ar wasanaethau trên yng Nghymru

Bydd trenau ar stop ar hyd Cymru am y trydydd tro mewn wythnos ddydd Sadwrn.

Mae Undeb RMT wedi bod yn cynnal y gweithredu diwydiannol yn dilyn anghydfod gyda Network Rail dros gyflogau ac amodau gwaith staff.

Er nad oes anghydfod rhwng yr undeb a Thrafnidiaeth Cymru yn uniongyrchol, nid oes modd cynnal gwasanaethau gan mai Network Rail sy'n gyfrifol am seilwaith y rheilffyrdd.

Dim ond tua 20% o wasanaethau fydd yn rhedeg ar draws rhwydwaith Network Rail ar ddiwrnodau'r streic.

Yma yng Nghymru, mae'r holl wasanaethau trên wedi eu hatal oni bai am rai gwasanaethau cyfyngedig yn y de.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod gwasanaeth cyfyngedig rhwng Radyr â Threherbert, Aberdâr a Phontypridd.

Cafodd y streic ei chynnal ddydd Mawrth a dydd Iau gan arwain at olygfeydd o orsafoedd trenau gwag ar hyd y wad.

Bydd diwrnod olaf y streicio yn digwydd ddydd Sadwrn ond mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio am oedi ar y rhwydwaith drwy gydol yr wythnos.

Mae Llywodraeth y DU a Chadeirydd Grŵp Darparu'r Rheilffyrdd wedi galw ar Undeb RMT i ddod â'r streic fwyaf ers y 1970au i ben.

Dywed RMT eu bod nhw'n awyddus i drafod er mwyn dod o hyd i ddatrysiad.

Llun: Trafnidiaeth Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.