Newyddion S4C

Hawl i erthylu wedi’i wyrdroi gan y Goruchaf Lys yn America

24/06/2022

Hawl i erthylu wedi’i wyrdroi gan y Goruchaf Lys yn America

Mae Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau wedi pleidleisio i wrthdroi’r hawl cyfansoddiadol i ddewis erthylu, wythnosau wedi i ddogfen gael ei rannu gyda'r wasg yn awgrymu bod aelodau'r llys yn bwriadu cael gwared â deddfwriaeth Roe v Wade. 

Fe fydd miliynau o fenywod yn yr Unol Daleithiau yn colli’r hawl cyfreithiol i erthyliad, ar ôl i’r Goruchaf Lys wyrdroi dyfarniad 50 oed.

Fe fydd y dyfarniad yn trawsnewid hawliau erthyliad yn America, gyda talaethau unigol nawr yn gallu gwahardd y drefn.

Mae Arlywydd yr Unol Daliethau, Joe Biden wedi disgrifio'r penderfyniad fel “camgymeriad trasig". 

Mae disgwyl i hanner taleithiau'r UD gyflwyno cyfyngiadau neu waharddiadau newydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.