Carcharu gweithiwr John Lewis am ddwyn £45,000 o stoc

Mae gweithiwr John Lewis wnaeth ddwyn stoc gwerth £45,000 wedi cael ei garcharu.
Roedd Lai Uong wedi gweithio i siop y cwmni yng nghanolfan Bluewater yn Nghaint am dros 17 mlynedd.
Cafodd ei ddal ar ôl i’r cwmni lansio ymchwiliad i’r stoc oedd ar goll.
Roedd Uong, 47 oed, wedi bod yn gwerthu ffonau a chyfarpar electronig ar-lein.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Heddlu Caint