Newyddion S4C

Llun o gar heddlu.

Dyn wedi marw wedi gwrthdrawiad yng Nghasnewydd

NS4C 20/06/2022

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Llanwern yng Nghasnewydd yr wythnos ddiwethaf. 

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ddydd Iau, 16 Mehefin am tua 19:10.

Fe wnaeth beiciwr modur 27 oed o ardal Caerdydd farw yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Mae'r heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd yn ardal Queensway rhwng 18:45 a 19:30 ar 16 Mehefin drwy ddefnyddio'r cyfeirnod 2200202186. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.