Newyddion S4C

Gerwyn Price a Jonny Clayton

Siom i Gymru wrth golli yn rownd derfynol Cwpan Dartiau’r Byd

NS4C 19/06/2022

Colli wnaeth Cymru yn rownd derfynol Cwpan Dartiau’r Byd nos Sul.

Roedd Gerwyn Price a Jonny Clayton wedi curo’r Philippines, Awstria, Yr Almaen a’r Iseldiroedd ar y ffordd i’r rownd derfynol.

Dechreuodd pethau yn wael i Gymru yn erbyn Awstralia ar ôl i Gerwyn Price golli’n drwm yn ei gêm unigol agoriadol.

Nid oedd Clayton ar ei orau chwaith wrth iddo fe golli ei gêm gyntaf gyda’r momentwm i gyd gydag Awstralia.

Roedd y Cymry ar ei hôl hi yng ngêm y dyblau ond daethon nhw nôl gyda Clayton yn cipio’r dart olaf i godi’u gobeithion.

Profodd Damon Heta yn drech na Clayton yn y gêm nesaf gan gipio’r fuddugoliaeth a’r bencampwriaeth yn haeddiannol i Awstralia o 3-1.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.