Streic trenau: Bydd pobl ddiniwed ‘yn cael eu cosbi’

Bydd cyfres o streiciau trên sydd wedi eu cyhoeddi am yr wythnos i ddod yn “cosbi miliynau o bobl ddiniwed” yn ôl Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU Grant Shapps.
Dywedodd fe fyddai teithwyr dyddiol a disgyblion yn sefyll arholiadau yn cael eu heffeithio fwyaf.
Ddydd Sadwrn roedd arweinwyr undeb RMT wedi cadarnhau y bydd eu haelodau yn streicio ar ôl i drafodaethau fethu datrys anghydfod dros gyflog, swyddi ac amodau gwaith.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Mick Lynch: “Er gwaethaf ein hymdrechion gorau ni lwyddwyd i gael cytundeb gweithredol ar yr anghydfod.”
Ychwanegodd Mr Lynch y bydd miloedd o weithwyr ar streic ar 21, 23 a 25 Mehefin ar Network Rail ac 13 o rwydweithiau gan gynnwys system danddaearol Llundain ar 25 Mehefin.
Mae Mr Shapps wedi galw ar yr undeb i ildio er mwyn helpu'r rheiny sy’n dibynnu ar y rhwydwaith drenau.
Ychwanegodd: “Mae nifer o bobl ddim yn cael eu talu os nad ydyn nhw yn gallu cyrraedd y gwaith.”
Dywedodd Gweinidog Addysg Cymru Jeremy Miles: “O’n safbwynt ni, ni eisiau gweld llywodraeth San Steffan yn mynd i’r afael gyda hyn a neu pob peth gallwn nhw i osgoi yr ‘impact’ fydd yn digwydd ac i gael y trafodaethau sydd ei angen ar yr undebau. Does neb yn moyn gweld y streiciau ‘ma’n digwydd.”
Darllenwch fwy yma.
Llun: Llywodraeth Cymru