Newyddion S4C

Newid byd i newyddiadurwraig wedi 30 mlynedd o ddarlledu

Newid byd i newyddiadurwraig wedi 30 mlynedd o ddarlledu

NS4C 18/06/2022

Mae un o wynebau cyfarwydd y byd newyddiaduraeth yng Nghymru wedi penderfynu newid trywydd, gan brynu tafarn yn Sir Gaerfyrddin.

Mae Rachael Garside wedi darlledu, cyflwyno a newyddiadura ar gyfer radio a theledu ers dros 30 o flynyddoedd, ond fe gafodd gyfle i ystyried ei cham nesaf mewn bywyd yn ystod y cyfnod clo.

Gyda'i phartner fe benderfynodd fentro i fyd newydd, gan brynnu tafarn y Plough Inn ym mhentref Felingwm.

Wrth drafod ei phenderfyniad i arallgyfeirio, dywedodd Rachael wrth Newyddion S4C: "Oedden ni isio newid, a theimlo ein bod wedi cyrraedd rhyw fath o oedran. Dwi wedi gweithio yn y maes darlledu ers bron i 30 mlynedd ac o’n i’n teimlo os nad ydym ni am neud o nawr ma’n debyg y bydd hi rhy hwyr.

"Mae wedi bod yn benderfyniad anodd mewn un ffordd gan ei fod yn benderfyniad mawr. Oedden ni isio meddwl yn ofalus achos ma’ hi yn risg."

Y bwriad yn wreiddiol oedd mentro i fyd cynhyrchu a thyfu bwyd, ond gan fod cymaint o dafarndai ar werth ar y funud, fe benderfynodd y ddau arallgyfeirio i fyd y gasgen gwrw.

Image
Mae Rachael yn gobeithio cael cymorth ei meibion fel rhan o’r fenter deuluol.
Mae Rachael yn gobeithio cael cymorth ei meibion fel rhan o’r fenter deuluol.

Dywedodd: “Mae fy mhartner yn arddwr ac mi oedden ni isio busnes lle allwn ni ganolbwyntio ar dyfu a gwerthu bwyd. Ar ôl sylwi bod llawer iawn o dafarndai ar y farchnad a bod prisiau yn eithaf rhesymol. Felly pam ddim tafarn?"

Fe fydd rhedeg tafarn yn gyfle i'r teulu barhau gyda'u diddordeb mewn garddio a thyfu llysiau hefyd, yn enwedig gan fod ei phartner yn brif arddwr yng Ngerddi Aberglasney.

Eu gobaith yw y bydd y fenter newydd yn fenter deuluol, ac fe fydd eu tri o feibion yn barod i dorchi llewys a chynnig cymorth yn y dafarn pan fod yr angen yn codi.

Mae Rachael Garside yn gobeithio y bydd y dafarn yn fan cyfarfod i bobl leol ag ymwelwyr fel ei gilydd, ond mae hi'n cydnabod y bydd ceisio dod o hyd i staff, yn enwedig yn y gegin, yn dipyn o dalcen caled. Mae'n bosib na fydd modd gweini bwyd ar y cychwyn meddai, o achos problemau posib gyda darganfod staff:

"Wrth gwrs mae heriau, ‘da ni yn gyffrous ond mae isio bod yn realistig hefyd ac mae sawl busnes lletygarwch wedi dioddef yn amlwg a phrinder staff ofnadwy ar hyn o bryd. ‘Da ni wedi ffeindio yn barod bod hi bron yn amhosib ffeindio staff i goginio. Maen nhw fel aur ar hyn o bryd.

"Felly falle bydd rhaid mentro yn arafach na beth oedden ni wedi gobeithio.

“Mae pobl yn gofyn bob dydd pryd ni’n agor. Dwi’n meddwl bod pobl yn falch bod ni’n lleol, yn dod o’r ardal ac yn siarad Cymraeg ac ein bod ni’n gallu bod yn rhyw fath o ganolbwynt i’r gymuned eto."

Ar ddechrau cyfnod newydd, dywedodd ei bod yn ffyddiog am y dyfodol gan fod cynifer o fusnesau bwyd a ffermwyr yn llewyrchus yn lleol. Ac er yr heriau economaidd sy'n bodoli ar hyn o bryd, mae hi'n credu fod pobl dal angen dihangfa i'r dafarn leol o bryd i'w gilydd.

"Ni’n edrych 'mlaen i groesawu pawb i’r dafarn," ychwanegodd. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.