Newyddion S4C

rhyngrwyd (pixabay)

Internet Explorer yn 'ymddeol' ar ôl 27 mlynedd

The Guardian 15/06/2022

Mae un o eiconau dyddiau cynnar y rhyngrwyd yn "ymddeol" wedi'i Microsoft benderfynu dod ag Internet Explorer i ben ar ôl 27 mlynedd.

Cafodd Explorer ei lansio yn 1995 i gydfynd gyda Windows 95, ac roedd y porwr rhyngrwyd cyntaf i lawer eu defnyddio.

Ers datblygiad porwyr eraill fel Google Chrome a Firefox mae'r nifer sy'n defnyddio Internet Explorer wedi gostwng.

Bellach mae Microsoft wedi cyhoeddi o ddydd Mercher ymlaen na fydd yr ap yn gweithio ar gyfrifiaduron ond bydd modd i ddefnyddwyr defnyddio Microsoft Edge fel eu porwr. 

Darllenwch fwy yma

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.