Newyddion S4C

Euogfarnau degau o gyn is-bostfeistri wedi eu dileu

Newyddion S4C 23/04/2021

Euogfarnau degau o gyn is-bostfeistri wedi eu dileu

Ar ôl i euogfarnau degau o gyn is-bostfeistri gael eu dileu gan y Llys Apêl ddydd Gwener, mae un gafodd ei garcharu ar gam wedi bod yn siarad gyda rhaglen Newyddion S4C tu allan i’r Llys yn Llundain.

Cafodd 39 allan o 42 cyn is-bostfeistr eu clirio yn gynharach ddydd Gwener.

Roeddynt wedi eu cael yn euog o dwyll neu gadw cyfrifon ffug tra'n gweithio i Swyddfa'r Post, ac fe wnaeth eu cyflogwr eu herlyn rhwng 1999-2004.

Fe ddaeth yn amlwg yn ddiweddarach mai nam ar system gyfrifiadurol Horizon Swyddfa'r Post oedd yn gyfrifol am wallau mewn cyfrifon, yn hytrach na unrhyw dwyll.

Un gafodd ei erlyn gan Swyddfa'r Post a'i garcharu am gadw cyfrifon ffug oedd Noel Thomas o'r Gaerwen, Ynys Môn. Cafodd ei ddedfrydu i naw mis o garchar a threuliodd dri mis dan glo.

Dywedodd Mr Thomas wrth ohebydd Newyddion S4C, Gwyn Loader: "Mae 'di bod yn un flwyddyn ar bymtheg a dweud y gwir ac am y bedair blynedd cynta' doeddwn i'm yn gwbod am neb na dim ond chi'ch hun".

"Chi'n meddwl bo chi'n cyrraedd y lan a wedyn o'dd 'na rwbath yn mynd â chi allan yn ôl wedyn so di'm 'di bo'n hawdd", ychwanegodd.

"Dyfal donc a dyrr y garreg a 'dan ni 'di cyrraedd".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.