Ceiswyr lloches i gael eu hanfon i Rwanda ddydd Mawrth wedi penderfyniad y Llys Apêl

Mae'r Llys Apêl wedi dyfarnu y gall yr awyren gyntaf deithio i Rwanda ddydd Mawrth yn cludo ceiswyr loches.
Mae ymgyrchwyr hawliau dynol yn dadlau bod polisi Llywodraeth y DU yn greulon.
Ond mae swyddogion ar ran y llywodraeth yn mynnu y bydd y strategaeth yn atal pobl rhag croesi'r môr o Ffrainc i dde-ddwyrain Lloegr mewn cychod bychain, o dan amodau peryglus.
Daw'r penderfyniad diweddaraf gan y Llys Apêl, ar ôl i'r Uchel Lys ddyfarnu yr wythnos ddiwethaf bod modd parhau â'r daith awyren i Rwanda. Dywedodd Y Llys Apel ddydd Llun na allai "ymyrryd" yn y penderfyniad gwreiddiol hwnnw.
Rhagor yma