Sue Barker i roi'r gorau i gyflwyno chwaraeon ar ôl 30 o flynyddoedd

Mae'r gyflwynwraig Sue Barker wedi penderfynu rhoi'r gorau i gyflwyno digwyddiadau chwaraeon ar gyfer y BBC, a hynny ar ôl 30 o flynyddoedd wrth y llyw.
Fe fydd yn rhoi'r gorau i gyflwyno ar ddiwedd cystadleuaeth Wimbledon eleni.
Mae hi'n wyneb cyfarwydd i filiynau o wylwyr, gan gyflwyno nifer o ddigwyddiadau chwaraeon o bwys dros y blynyddoedd, gan gynnwys Marathon Llundain, y Grand National, Ascot, y Gemau Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad.
Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd mewn datganiad: "Rwyf wedi cael amser anhygoel yn gweithio ar rai o'r digwyddiadau chwaraeon mwyaf ar draws y byd. Fe fyddaf yn ei golli'n fawr ond wedi 30 o flynyddoedd rwy'n credu fod yr amser yn iawn i mi. Rwyf wedi gweithio gyda'r gorau o'r goreuon."
Darllenwch ragor yma.
Llun: BBC