Teulu yn rhoi teyrnged i 'ffrind gorau i bawb' fu farw mewn gwrthdrawiad

Mae teulu wedi rhoi teyrnged i ddyn 52 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ger Casgwent ddydd ar ddydd Gwener 3 Mehefin.
Bu farw Andrew Still o Cinderford yn y fan a'r lle mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A466 rhwng Tyndyrn a Chasgwent.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng beic modur a charafán modur Volkswagen glas, gyda Mr Still yn gyrru'r beic modur ar y pryd.
Dywedodd ei deulu fod "Andrew nid yn unig yn ffrind gorau i bawb, ond hefyd yn graig ac yn oleuni ym mywyd pawb o'i gwmpas.
"Roedd yn dywysydd trwy broblemau bywyd ac yn llygedyn o olau ym mhob torf. Roedd yn gwneud i chi chwerthin, ac yn arwain bob tro."
Dywedodd ei wraig mai "Andrew oedd fy enaid hoff cytûn, fy hanner arall a fy ngwir gariad. Andrew oedd y dyn mwyaf caredig a chariadus, fy ngŵr, a bydd Andrew Mark Still yn ŵr bendigedig i mi am byth."
Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200185356.