Newyddion S4C

Joe Cordina

Y Cymro Joe Cordina yn ennill pencampwriaeth bocsio’r byd

Wales Online 05/06/2022

Mae’r Cymro Joe Cordina wedi ennill pencampwriaeth bocsio byd uwch bwysau plu yr IBF ar ôl gornest yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

Llwyddodd Cordina, o Gaerdydd, i lorio’r pencampwr Kenichi Ogawa yn yr ail rownd.

Dim ond pum mlynedd yn ôl wnaeth Cordina droi yn broffesiynol ac roedd yn ddiguro mewn 14 gornest.

Dywedodd Cordina ar ôl ei fuddugoliaeth: “Rwy ar ben y byd.”

Darllenwch fwy yma.

Llun: Twitter/Joe Cordina
 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.