Cau ffordd ym Mhen Llŷn yn dilyn gwrthdrawiad

Mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn delio gyda digwyddiad rhwng dau gerbyd yng Ngwynedd.
Mae ffordd y B4354 wedi cau rhwng Y Ffôr a'r Fron ym Mhen Llŷn yn dilyn y digwyddiad am tua 13.30 ddydd Sadwrn.
Roedd yr heddlu, gwasanaeth tân a’r ambiwlans awyr wedi eu galw i roi cymorth.
Dywedodd Heddlu’r Gogledd y bydd y ffordd ar gau “am beth amser."