
Gŵyl ffilm LHDT+ newydd i ffocysu ar brofiadau menywod
Gŵyl ffilm LHDT+ newydd i ffocysu ar brofiadau menywod

Mae gŵyl ffilm LHDT+ newydd yng Nghaerdydd yn ceisio tynnu mwy o sylw i brofiadau menywod o fewn y gymuned.
Bydd yr Ŵyl Ryngwladol Ffilm a Chelfyddydau Lesbiaidd, neu LezDiff, yn cael ei chynnal mewn amryw o leoliadau yng Nghaerdydd rhwng yr wythfed a degfed o Orffennaf.
Bydd yr ŵyl yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys sesiynau ffilm, theatr, trafod a hanes yn gysylltiedig â phrofiadau LHDT+ benywaidd.
Yn ôl un o drefnwyr yr ŵyl, Nia Medi, dydy profiadau menywod LHDT+ ddim yn cael eu darlledu ddigon yn y diwydiant ffilm.
Yn wahanol i wyliau ffilm LHDT+ eraill, mae LezDiff yn ffocysu ar gynnwys sydd yn gysylltiedig ag aelodau benywaidd gan gynnwys pobl lesbian, deurywiol, traws a chwiar.
"Mae 'na ddiffyg ffilmiau sydd yn dangos menywod LHDT+ o ran y prif gymeriadau," meddai Nia.

"Y rhai sydd yn cyrraedd y sinemai, yn aml iawn mae nhw wedi cael eu cyfarwyddo gyda dynion yn hytrach na menywod ac yn sicr menywod LHDT+."
'Profiadau positif'
Dywedodd Nia fod nifer o ffilmiau lesbiaidd modern yn gorbwysleisio straeon trist a "does dim byd hapus yn dod ohonyn nhw."
Gyda LezDiff, mae Nia a gweddill y tîm yn gobeithio dathlu hunaniaeth menywod o fewn y gymuned LHDT+.
"Dwi feddwl bod y ffocws yn mynd i fod yn yr ŵyl hon ar y profiadau positif," meddai.
"A hefyd adlewyrchu ein bywydau pob dydd ni. Ma na swyddi da ni, ma plant da ni, ma teuluoedd da ni."
"Ni jyst eisiau rhywbeth sydd yn dangos hynny i gynulleidfa newydd."

Mae LezDiff yn bwriadu darlledu ffilmiau sy'n arddangos amrywiaeth o brofiadau o fewn y gymuned LHDT+ benywaidd.
Ond un broblem mae Nia wedi gweld yw diffyg cynnyrch Cymraeg sy'n adlewyrchu profiadau menywod Cymru.
"Mi fasen fe'n hyfryd i weld mwy o ffilmiau o ran y profiad Cymreig LHDT+."
"O ran y'n sefyllfa bersonol fi, oedd na adeg pryd oedd dwy hunaniaeth gen i, yr hunaniaeth hoyw a'r hunaniaeth Cymraeg a doedd gen i'm syniad sut oedd plethu'r ddau beth na."
"Ma na sicr sgôp i archwilio rhywbeth fel na a fyswn i'n licio gweld mwy o hynny'n digwydd."
Gyda'r ŵyl ond yn ei blwyddyn gyntaf, mae Nia yn gobeithio ei datblygu yn y dyfodol i fod yn rhan allweddol o'r gymuned LHDT+ yng Nghymru.