
Prinder staff twristiaeth dros ŵyl y banc
Prinder staff twristiaeth dros ŵyl y banc

Ar ddechrau penwythnos gŵyl y banc, mae busnesau o fewn y diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn dweud eu bod yn wynebu pwysau a heriau sylweddol o achos prinder staff.
Yn ôl un gwesty a bwyty yng Ngheredigion, maen nhw newydd ddechrau cynnig llety fel rhan o'r gwaith yn y gobaith o geisio denu staff newydd. Mae'n broblem ledled y wlad a nifer o fusnesau yn gorfod addasu eu horiau agor o ganlyniad.
Dywedodd Dai Morgan, rheolwr cyffredinol yr Harbwrfeistr: "Mae diffyg staff yn broblem i ni, ni'n chwilio am bobl i weithio yn y gegin, pobl i weini bwyd, pobl i weithio ar y bar.
"Synne' chi, does neb yn trio am y swyddi. Dim bod rhai anaddas - does neb yn trio am y swyddi. Dwi'n siarad gyda chyfoedion yn Aberaeron, Cei Newydd, ac mae'r un stori 'da pawb."

Dywedodd hefyd bod yn y busnes wedi gorfod cymryd camau pellach i geisio denu staff.
"Fel esiampl i chi, swydd is-reolwr. Ry'n ni wedi bod [yn hysbysebu] ar-lein. Ni 'di cael 700 o hits... pobl wedi edrych arno fe, ond dim un application.
"Dwi'n meddwl bod Aberaeron wedi mynd yn lle drud i fyw, neu ddrud i brynu tai. So ry'n ni wedi gorfod mynd mas a chwilio llety i bobl.
"Ni'n cynnig swyddi o'r wythnos hon ymlaen gyda lle i fyw hefyd, yn y gobaith falle bydd rhywun yn ceisio am y swyddi."