Newyddion S4C

S4C

Cymro wedi marw mewn ras feic modur ar Ynys Manaw

NS4C 02/06/2022

Mae’r gyrrwr beic modur o Gymru, Mark Purslow, wedi marw mewn ras feic modur Ynys Manaw.

Yn wreiddiol o Lanon yng Ngheredigion, roedd yn cystadlu yn rowndiau rhagbrofol ras TT Ynys Manw pan ddigwyddodd y ddamwain yn Ballagarey.

Dyma’r ail dro i Purslow gystadlu yn Rasys TT Ynys Manaw, wedi iddo gystadlu yn y rasys Supersport a Lightweight yn 2017.

Roedd Purlow yn 29 oed ac wedi rasio mewn cystadlaethau yng Ngogledd Iwerddon ac Ewrop yn ystod ei fywyd.

Roedd dod yn rasiwr TT yn uchelgais bywyd iddo, yn ôl trefnwyr y ras.

Dywed y trefnwyr y bydd y ras yn mynd yn ei blaen "ond gyda Mark yn ein meddyliau".

Llun: TT Isle of Man 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.