Newyddion S4C

S4C

Pedwar wedi’u saethu'n farw mewn ysbyty yn Oklahoma, America

Al Jazeera 02/06/2022

Mae pedwar o bobl wedi’u saethu’n farw mewn ysbyty yn Tulsa, Oklahoma, yn ôl yr heddlu yno.

Mae sawl person arall wedi'u hanafu yn dilyn y digwyddiad brynhawn dydd Mercher.

Mae’r saethwr oedd wedi’i arfogi â reiffl a gwn llaw, hefyd wedi marw.

Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mercher, dywedodd Dirprwy Brif Swyddog yr Heddlu Eric Dalgleish fod y saethwr, sydd heb ei adnabod eto, wedi dioddef anafiadau angheuol oedd wedi'u hachosi gan ei hun.

Darllenwch y stori'n llawn yma. 

Llun: Twitter @Mr_JCE

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.