Dyn yn ymddangos mewn llys wedi ei gyhuddo o lofruddio mam-gu yng Nghasnewydd

Mae dyn wedi ymddangos yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Mawrth wedi ei gyhuddo o lofruddio mam-gu yng Nghasnewydd.
Mae Simon Parks, 51, wedi ei gyhuddo o lofruddio Mari O'Flynn, 79, wedi iddi gael ei darganfod yn farw mewn cyfeiriad yn ardal Betws ddydd Mawrth, 24 Mai.
Fe wnaeth Mr Parks siarad i gadarnhau ei enw yn unig wrth iddo ymddangos trwy gyswllt fideo o'r carchar yng Nghaerdydd.
Dywedodd yr erlynydd Jason Howells, bod yr ymchwiliad i lofruddiaeth Mrs O'Flynn yn parhau a'u bod yn aros am adroddiad post mortem llawn.
Wrth roi teyrnged i Mrs O'Flynn, dywedodd ei theulu ei bod yn fenyw "hyfryd, gref ac annibynnol.
“Mae ein calonnau wedi torri gan y ffordd greulon y cafodd ein mam ei chymryd oddi wrthym ni."
Darllenwch fwy yma.