Dyn mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghorwen

Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd ar yr A5, ger Glyndyfrdwy, Corwen ddydd Llun.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 14:30.
Cafodd beiciwr modur ei gludo i Ysbyty yn Stoke mewn hofrennydd yn dilyn y digwyddiad.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw lygad-dystion neu unrhyw un a welodd y beic modur cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw gan ddefnyddio cyfeirnod B077855.